Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Ionawr 2012
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Gorchymyn Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau ac ati) 2011
1. Ar 10 Ionawr 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Gorchymyn Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau ac ati) 2011 i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, er mwyn iddo ystyried y Gorchymyn ac adrodd yn ôl arno.
2. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adrodd yn ôl i’r Cynulliad erbyn 25 Ionawr 2012.